P-05-957 Gorsaf yn Sanclêr – Cefnogwch y cais am orsaf drennau yn Sanclêr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cyngor Tref St Clears, ar ôl casglu 562 o lofnodion ar lein a 582 ar bapur, sef cyfanswm o 1,144 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i argymell Sanclêr i Network Rail fel lleoliad ar gyfer gorsaf reilffordd newydd yng Nghymru. Bydd Sanclêr a'r cymunedau cyfagos yn elwa'n fawr o ailagor yr orsaf reilffordd, bydd yr orsaf yn cau'r bwlch yn llinell Gorllewin Cymru a galluogi mwy o bobl i ddefnyddio'r trên. Credwn y byddai gorsaf yn Sanclêr yn dod â llawer o fuddion gan gynnwys cynhwysiant cymdeithasol, lleihau ôl troed carbon a mwy o dwristiaeth yn yr ardal.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
· Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
· Canolbarth a Gorllewin Cymru